Submitting Assignments in Welsh at The Open University: Your Rights and How
Did you know that at The Open University (OU), students living in Wales have the legal right to submit assignments and sit exams in Welsh?
This is more than just a courtesy—it’s a commitment backed by the Welsh Language (Wales) Measure 2011 and the OU’s Welsh Language Standards Compliance Notice.
So if you’re a Welsh speaker, here’s what you need to know about submitting your work in your preferred language.
Your Right to Submit in Welsh
The OU’s policy is clear: any written work submitted in Welsh must be treated no less favourably than work submitted in English. This applies to:
- Tutor-Marked Assignments (TMAs)
- End-of-Module Assessments (EMAs)
- Exams
This right extends across all levels of study, including Access modules, undergraduate and postgraduate qualifications, micro credentials, and short courses.
How?
If you choose to submit your work in Welsh:
- Your assignment will be marked by a Welsh-speaking tutor whenever possible.
- If a Welsh-speaking marker isn’t available, your work will be professionally translated into English for marking.
- You’ll be given the opportunity to review the translation to ensure it accurately reflects your original work.
- The translation process won’t delay your feedback or results.
- The OU covers all translation costs, so there's no financial burden on you.
To submit your work in Welsh:
- 1. Check your module guidance: Some modules (e.g. language courses) may require submissions in a specific language.
- 2. Follow the standard submission process: Submit your TMA or EMA via StudentHome as usual.
- 3. Notify your tutor or Student Support Team if you plan to submit in Welsh, especially if it’s your first time doing so.
Important Notes
- Interactive Computer-Marked Assignments (iCMAs) cannot be completed in Welsh.
- If you’re sitting an exam in Welsh, you must inform the OU in advance so arrangements can be made.
- The OU is committed to equality, diversity, and inclusion, and this policy reflects that ethos.
Support in Welsh
Need help in Welsh? You can:
- Speak to a Student Support Adviser in Welsh by calling 029 2047 1170.
- Access the full policy in Welsh or English via the OU's policy documents
And finally...
Studying in your preferred language can make a huge difference to your confidence and performance. The OU’s commitment to supporting Welsh-medium education ensures that language is never a barrier to success. So, if Welsh is your first language—or simply the one you feel most comfortable using—know that the OU has your back.
Cyflwyno Asesiadau yn Gymraeg yn y Brifysgol Agored: Eich Hawliau a Sut
Oeddech chi’n gwybod, yn y Brifysgol Agored (OU), mae gan fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru yr hawl gyfreithiol i gyflwyno gwaith ysgrifenedig ac eistedd arholiadau yn Gymraeg?
Mae hyn yn fwy na chwrteisi—mae’n ymrwymiad wedi’i seilio ar Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Hysbysiad Cydymffurfio Safonau’r Gymraeg y Brifysgol Agored.
Dyma’r wybodaeth hanfodol am gyflwyno’ch gwaith yn eich iaith ddewisol.
Eich Hawl i Gyflwyno yn Gymraeg
Mae polisi’r OU yn glir: rhaid trin unrhyw waith ysgrifenedig a gyflwynir yn Gymraeg yr un mor ffafriol â gwaith a gyflwynir yn Saesneg. Mae hyn yn berthnasol i:
- Asesiadau wedi’u Marcio gan Diwtor (TMA)
- Asesiadau Diwedd Modiwl (EMA)
- Arholiadau
Mae’r hawl hon yn berthnasol ar bob lefel astudio.
Sut?
Os byddwch yn dewis cyflwyno’ch gwaith yn Gymraeg:
- Bydd eich gwaith yn cael ei farcio gan diwtor sy’n siarad Cymraeg lle bo hynny’n bosibl.
- Os nad oes marciwr Cymraeg ar gael, bydd eich gwaith yn cael ei gyfieithu’n broffesiynol i’r Saesneg er mwyn ei farcio.
- Byddwch yn cael cyfle i adolygu’r cyfieithiad i sicrhau ei fod yn adlewyrchu’ch gwaith yn gywir.
- Ni fydd y broses gyfieithu yn oedi’ch adborth nac eich canlyniadau.
- Mae’r OU yn talu am y cyfieithiad, felly does dim cost ychwanegol i chi.
I gyflwyno’ch gwaith yn Gymraeg:
- 1. Gwiriwch ganllawiau’r modiwl: Mae rhai modiwlau (e.e. cyrsiau iaith) yn gofyn am waith mewn iaith penodol.
- 2. Defnyddiwch y broses gyflwyno safonol: Cyflwynwch eich TMA neu EMA drwy StudentHome fel arfer.
- 3. Rhowch wybod i’ch tiwtor neu’r Tîm Cymorth i Fyfyrwyr os ydych yn bwriadu cyflwyno yn Gymraeg, yn enwedig os mai dyma’r tro cyntaf.
Nodiadau Pwysig
- Ni ellir cwblhau Asesiadau wedi’u Marcio gan Gyfrifiadur (iCMA) yn Gymraeg.
- Os ydych yn eistedd arholiad yn Gymraeg, rhaid rhoi gwybod i’r OU ymlaen llaw er mwyn trefnu.
- Mae’r OU wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, amrywiaeth a chynhwysiant, ac mae’r polisi hwn yn adlewyrchu’r egwyddorion hynny.
Cymorth yn Gymraeg
Angen cymorth yn Gymraeg? Gallwch:
- Siarad â Chynghorydd Cymorth i Fyfyrwyr yn Gymraeg drwy ffonio 029 2047 1170.
- Darllen y polisi llawn yn Gymraeg neu Saesneg drwy ddogfen bolisi’r OU.
Ag yn olaf…
Gall astudio yn eich iaith ddewisol wneud gwahaniaeth enfawr i’ch hyder a’ch perfformiad. Mae ymrwymiad y Brifysgol Agored i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg yn sicrhau nad yw iaith byth yn rhwystr i lwyddiant. Felly os mai Cymraeg yw eich iaith gyntaf—neu’r iaith rydych yn teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio—mae’r OU yma i’ch cefnogi.
Latest Opportunities
Sign up to the Student Voice and Student Consultation mailing list
At home / online